Ynni Lleol Brighton Gwybodaeth Allweddol

Cael eich trydan o ffynhonnell leol

Beth yw Ynni Lleol Brighton? 

Prosiect cymunedol yw Ynni Lleol Brighton fydd, drwy eich helpu i baru eich defnydd o drydan gyda phŵer o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, yn eich galluogi i reoli eich biliau trydan a chefnogi ynni adnewydadwy lleol yr un pryd. Y ffynhonnell ynni adnewyddadwy ydy Solar Power.

Sut mae hyn yn gweithio?

Pan fyddwch yn ymuno â’r prosiect hwn, byddwch yn dod yn rhan o’ch Clwb Ynni lleol. Pobl yn eich cymuned chi yw aelodau’r Clwb, ynghyd â chynhyrchwyr ynni lleol. Bydd mesurydd deallus yn cael ei osod yn eich cartref wedi i chi ddod yn aelod, yn rhad ac am ddim. Bydd y mesurydd yn cofnodi pa adegau o’r dydd rydych chi’n defnyddio trydan, yn ogystal â mesur faint rydych yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnig ffordd well o brynu trydan.

Os bydd aelodau’r Clwb yn defnyddio trydan ar adegau pan fydd y Solar Power yn cynhyrchu ynni, byddant yn defnyddio ynni ar y prisiau sydd rataf. Bydd yr ynni y mae’r cynhyrchydd lleol yn ei gynhyrchu yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob cartref sy’n defnyddio trydan ar yr adeg yna, a bydd pob cartref yn talu’r pris y mae’r Clwb wedi’i gytuno am eu cyfran. Mae hyn yn llai na phris arferol trydan yng ngwledydd Prydain ond yn fwy na beth fyddai’r cynhyrchydd yn ei gael fel arfer o’i werthu - pawb yn elwa, felly! Cytunir y prisiau hyn bob blwyddyn gan aelodau’r Clwb.

Bydd unrhyw ynni ychwanegol y mae ar gartrefi ei angen yn cael ei gyflenwi gan gyflenwr trydan, Octopus Energy. Mae pris y trydan ychwanegol hwn yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd pan gaiff ei ddefnyddio (sef y ‘tariff amser defnyddio’). Mae’r diwrnod yn cael ei rannu’n wahanol gyfnodau. Byddwch yn talu mwy am drydan ar adegau prysur (amser brecwast ac amser te) a llai ar adegau tawelach.

Prisiau trydan

Time of dayLocally Generated Electricity
(pence per kWh)
Extra Electricity
(pence per kWh)
7am-4pm13.325
4pm-8pm13.318
8pm-7am13.312.2

Y gost osodedig: 29.00 c/dydd.

Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW.

Mae hwn yn rhoi awgrym i chi o’r tariff amser defnyddio (TOUT) a gaiff ei gynnig i Ynni Lleol Brighton. Bydd yr union brisiau yn cael eu cadarnhau ar adeg newid cyflenwr, a byddant yn unol â'r tariffau sefydlog fyd ar gael ar y pryd.

Bydd eich mesurydd deallus yn casglu gwybodaeth am eich defnydd ynni, a gallwch weld y wybodaeth hon ar-lein. Er mwyn eich helpu i newid yr amserau pan ydych yn defnyddio trydan er mwyn manteisio ar y prisiau gorau, byddwch hefyd yn cael adroddiadau ynni unigol, a chyngor a chefnogaeth sy’n berthnasol i chi.

 I wneud yn fawr o’ch aelodaeth o’r Clwb Ynni Lleol, bydd angen i chi ddefnyddio trydan ar yr adegau pan fydd y Solar Power yn cynhyrchu ynni (gallwch edrych i weld pryd mae hyn, ar y dangosfwrdd ynni, gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen), neu ar yr adegau rhataf o’r dydd.

Bydd sefyllfa pawb yn amrywio ond rydym yn amcangyfrif y bydd yn bosib i chi arbed 10-30% ar eich bil trydan. Mi fydd ffi aelodaeth bach ar gyfer y Clwb. 

Sut fydd y gymuned yn elwa? 

Trwy Ynni Lleol Brighton, bydd y cynhyrchydd lleol yn cael gwell pris am yr ynni y mae’n ei gynhyrchu. Pan fyddwch yn talu am drydan lleol, y cynhyrchydd lleol fydd yn derbyn yr arian. Gan y byddwch wedi arbed ar eich biliau, bydd gennych chi ychydig mwy i’w wario’n lleol.

Beth am ymuno ag Ynni Lleol Brighton

Rydym yn chwilio am tua 50 o aelwydydd i ymuno â’r Clwb. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Reggie Perrin
unknown@energylocal.co.uk

Os ydych yn meddwl yr hoffech ymuno, ewch i energylocal.org.uk/cy os gwelwch yn dda i fynegi diddordeb. Ni fyddwch yn ymrwymo i ddim byd ar hyn o bryd.