Mae’r CAD yn cysylltu’ch mesurydd clyfar â gwasanaeth trydan eich cyflenwr drwy’ch rhwydwaith diwifr gartref. Rhaid i’ch CAD aros wedi plygio i fewn i soced trydan drwy’r amser. Mae’r CAD yn rhedeg ar ynni isel ac yn defnyddio tonnau radio tonfedd byr i gyfathrebu â rhwydwaith y mesurydd clyfar ac â’r rhwydwaith diwifr.
Gosod
Dylid gosod y CAD yn barhaol mewn lle sydd o fewn cyrraedd radio i’ch mesurydd clyfar a’ch router diwifr. Does dim rhaid iddo fod union drws nesaf i’r mesurydd clyfar neu’r router. Mae cyrrhaeddiad fwyaf tonnau radio yn dibynnu’n bennaf ar faint o garreg/bric/concrid sydd ar linell syth rhwng y CAD a’r mesurydd, neu rhwng y CAD a’r router diwifr. Fel arfer, mae’r tonnau yn cyrraedd hyd at rhwng 10 a 30 medr.
Gosod y rhwydwaith diwifr
Bydd rhaid i chi roi enw eich rhwydwaith diwifr (SSID) a’ch cyfrinair yn y CAD fel y gall gysylltu â’ch rhwydwaith diwifr. Gallwch ddod o hyd i’r manylion hyn ar eich router diwifr, neu weithiau mae’ch cyflenwr diwifr yn darparu cerdyn Keep Me efo’r manylion arnynt.
- Wrth gael ei osod, bydd y CAD yn creu ei rwydwaith diwifr ei hun o’r enw ‘meterreader’. Defnyddiwch ffôn clyfar, llechen neu liniadur i chwilio am y rhwydwaith diwifr hwn a chysylltwch â fo.
- Nid oes angen cyfrinair ar gyfer y rhwydwaith ‘meterreader’. Os bydd y rhwydwaith ‘meterreader’ yn gofyn am gyfrinair, cysylltwch ag Octopus i gael help.
- Unwaith y byddwch wedi cysylltu â’r rhwydwaith diwifr ‘meterreader’, ewch i’r dudalen http://169.254.1.1/wifisetup - bydd rhaid i chi deipio hyn i borwr gwe ar eich ffôn, llechen neu liniadur.
- Bydd y dudalen hon yn llwytho ‘Gosodiadu diwifr’. Dewiswch enw eich rhwydwaith diwifr (SSID) o’r gwymplen, mewndeipiwch eich cyfrinair a phwyswch ‘Submit’.
- Caewch dudalen y porwr gwe, a dadgysylltwch o’r rhwydwaith diwifr ‘meterreader’.
- Bydd y CAD yn cysylltu â’ch rhwydwaith diwifr mewn ychydig o funudau. Mi welwch hyn wrth i’r golau LED fflachio’n hir.
- Os nad oedd hyn yn gweithio, triwch eto gan ddilyn y camau uchod.
Gosod y mesurydd clyfar - Gallai hyn gymryd ychydig o wythnosau i'w gwblhau
Unwaith y byddwch wedi llwyddo cysylltu’r CAD â’ch WiFi, bydd Octopus yn cael nodyn yn cadarnhau hyn. Bydd Octopus wedyn yn gallu cysylltu’ch CAD â’ch mesurydd clyfar. Peidiwch â thynnu’r sticer oddi ar eich CAD: os bydd unrhyw broblemau wrth gysylltu’r offer â’ch mesurydd clyfar, maen’n bosib y bydd rhaid i Octopus ofyn i chi am y codau sydd ar y sticer hwn.
Dangosydd LED
Unwaith y bydd y CAD wedi ei osod a’i gysylltu, bydd y golau LED ar y blaen yn fflachio mewn parau. Bydd y fflach cyntaf mewn pâr yn dangos statws y cysylltiad rhwng y CAD a’r router diwifr, a bydd yr ail fflach yn dangos statws y cysylltiad rhwng y CAD a’r mesurydd clyfar.
Mae’r fflach cyntaf yn dangos statws y cysylltiad diwifri:
Fflach byr (<0.25 eiliad): WiFi – dim cysylltiad
Fflach canolig (1 eiliad): cysylltiad â’r WiFi ond nid â’r server ynni
Fflach hir (2 eiliad): cysylltiad llawn
Mae’r ail fflach/golau yn dangos statws y cysylltiad a’r mesurydd clyfar:
Fflach byr (<0.25 eiliad): dim cysylltiad â’r rhwydwaith mesurydd clyfar
Fflach canolig (1 eiliad): wdi ei gysylltu â’r rhwydwaith mesuryddion clyfar, ond dim wedi darganfod eich mesurydd clyfar chi eto
Fflach hir (2 eiliad): wedi ei gysylltu â’r mesurydd clyfar
Cymorth
Os ydych chi angen unrhyw gymorth, neu unrhyw broblemau’n codi wrth i chi osod eich offer CAD, cysylltwch ag Alanah yn Octopus.
Ebost alanah.pople@octoenergy.com
Neges testun HELP i 07927288762
Am gymorth yn Gymraeg, Testun HELP CYMRAEG i 07927288762